Arolwg SHRN

Annwyl Riant/Gofalwr,

Y tymor hwn, byddwn yn cymryd rhan yn Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr SHRN, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r arolwg yn cefnogi ysgolion i wella lles disgyblion ac efallai y bydd yn cynnwys cysylltu data’n ddienw (e.e. cofnodion y GIG neu addysg) i gefnogi ymchwil.

Gweler y dogfennau ynghlwm gan Dr. Kelly Morgan, Cyfarwyddwr SHRN, am fanylion llawn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Mr Declan Lynch: declan.lynch@ysgolbrogwaun.com.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus.

Declan Lynch

Pennaeth Cynorthwyol

This post was last updated on 10 October 2025 10:31

Category: Newyddion