Cod Diogelwch Dwr gyda Diogelwch Dwr Cymru
Yn 2023 roedd yna gynnydd yn nifer y marwolaethau yn y dŵr ac o gwmpas y dŵr ymysg pobl ifanc, ac rydyn ni eisoes wedi gweld nifer o farwolaethau drwy foddi eleni. Mae’n rhaid inni weithio gyda’n gilydd i atal rhagor o farwolaethau.
Mae data 2023 yn dangos bod bechgyn 10-19 oed yn wynebu risg arbennig o foddi’n ddamweiniol a bod 59% o’r marwolaethau wedi digwydd ar ddyfroedd mewndirol (afonydd, llynnoedd, camlesi etc).
Hoffem eich annog i atgoffa plant a phobl ifanc o’n pedwar awgrym syml i’w helpu i gadw’n ddiogel o amgylch dŵr agored. Gall gwybod y cynghorion hyn achub bywyd.
Arhoswch yn hydradol bob amser ac yfed dwr
Mae’r GIG yn argymell ein bod yn yfed 6-8 gwydraid o ddŵr y dydd, a’r allwedd yw dechrau yfed yn y bore a pharhau i wneud hynny’n rheolaidd drwy gydol y dydd.
Cofiwch wisgo eli haul
Mae’n bwysig cofio bod llosg haul yn cynyddu’r risg o ganser y croen ond gallwch losgi’n hawdd yn y UK, hyd yn oed pan mae’n gymylog.
Syniadau da!
Peidiwch â neidio i mewn i’r anhysbys. Ystyriwch y peryglon cyn mentro: