What is a school governor?
Yr ateb syml i hyn yw ei fod yn cefnogi gwaith yr ysgol. Mae’n darparu persbectif gwahanol i’r staff a gall helpu’r ysgol i gynllunio ar gyfer y dyfodol a monitro ei bod yn gwneud yr hyn y mae’n dweud ei bod yn ei wneud. Mae hefyd yn helpu i arfarnu effeithiolrwydd gweithgareddau’r ysgol. Yn fyr, mae’n gweithredu fel ffrind beirniadol.
Yr hyn nad yw y corff llywodraethol yn ei wneud yw cymryd rhan yn rhedeg yr ysgol o ddydd i ddydd. Rhaid i chi fod yn glir mai cyfrifoldeb y Pennaeth yw hyn. Er y gall fod gan aelodau’r corff llywodraethu sgiliau y gallant eu defnyddio i gefnogi’r ysgol e.e. ym maes cyllid neu iechyd a diogelwch, mae’n bwysig cofio peidio â dweud wrth y staff sut i wneud eu swyddi. Er ei bod yn debygol bod gan bob un ohonom syniad o’r hyn sy’n gwneud athro da, nid yw llywodraethwyr yn ymwneud â llunio barnau am athrawon. Rôl y corff llywodraethu yw sicrhau bod trefniadau mewn lle i’r Pennaeth a’r uwch staff fonitro perfformiad y staff.
Bob blwyddyn, mae’n ofynnol i’r llywodraethwyr gyhoeddi adroddiad i Rieni, dyma adroddiad AGPM
Adroddiadau Cyfarfod Cyffredionol Blynyddol Rhieni
Hawl Rhiant i Gyfardfod â’r Corff Llywodraethol
Mae canllawiau statudol newydd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru i’r perwyl hwn (104/2013)
Yn weithredol o 4 Mai 2013, nid yw’n ofynnol mwyach i gyrff llywodraethu gynnal Cyfarfod Blynyddol Rhieni.
Mae gan rieni bellach yr hawl i ofyn am hyd at dri chyfarfod y flwyddyn gyda’r corff llywodraethu i drafod materion sy’n eu poeni. Rhaid mai’r pwrpas yw trafod materion sy’n ymwneud â’r ysgol. Ni all ymwneud â chynnydd disgyblion unigol, na mynegi cwynion yn erbyn aelodau yn erbyn aeoldau o staff neu’r corff llywodraethu.
Atodiad B – Eich hawl i ofyn am gyfarfod gyda chorff llywodraethu’r ysgol
Llawlyfrau Llywodraethwyr
Gweler llawlyfr Llyodraethwyr Seasneg isod: