b.Smart

Yn Ysgol Bro Gwaun rydym yn gosod ac yn rhoi adborth ar dasgau dysgu o adref i flynyddoedd 7-9 trwy ein cwricwlwm arloesol B-Smart. Mae’r fideo yma, a gyflwinir gan 2 o’n disgyblion gwych blwyddyn 7, yn esbonio’r rhesymau pam ein bod yn gwneud hyn.

Mae pob tasg B-Smart yn cael eu gosod ar Google Classrooms. Rydym yn awyddus iawn eich bod yn gallu cael mynediad i gyfrif Google Classroom eich plentyn, gan fydd hyn yn eich caniatau i dderbyn rhybuddion ac hysbysiadau ynghylch aseiniadau newydd ac hwyr.  Er mwyn i chi gael mynediad, ymatebwch i’r wybodaeth ‘home/school communications’ sydd wedi cael ei anfon atoch chi drwy Xpressions. Mae’r wybodaeth hefyd ar ein gwefan.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus ac os oes gennych unrhyw gwestiynau peidiwch ag oedi i gysylltu â ni.