Diogelu

Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am ddiogelwch a diogelu pob disgybl sy’n mynychu’r ysgol. Os oes pryderon ynghylch esgeulustod neu gamdriniaeth gorfforol, emosiynol neu rywiol, yna o dan Gweithdrefnau Amddiffyn Plant yng Nghymru mae gan staff ddyletswydd i adrodd y pryder i Swyddog Amddiffyn Plant yr ysgol. Efallai y bydd rhaid i’r Swyddog Amddiffyn Plant ymgynghori â chydweithwyr proffesiynol yn ogystal ag asiantaethau perthnasol eraill, megis Gwasanaethau Iechyd Cymdeithasol. Yn dilyn y drafodaethau hyn, efallai bydd yr ysgol yn gorfod gwneud atgyfeiriad at yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, a fydd yn penderfynu y camau nesaf. Oherwydd natur rhai honiadau, ni fydd yn briodol i drafod materion gyda’r rhieni cyn gwneud atgyfeiriad. Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Heddlu sy’n gyfrifol am ymchwilio i honiadau.

Y Swyddogion Amddiffyn Plant penodedig yw Miss Rhian Lewis a Miss Alana Finn.