Amdanom

Croeso cynnes i Ysgol Bro Gwaun

Mae Ysgol Bro Gwaun yn ysgol dwyieithog uwchradd 11-16. Mae’n ysgol sy’n cynnig rhai pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae’r ysgol ar safle hardd sy’n edrych dros Harbwr Abergwaun, yn erbyn cefndir o fynyddoedd y Preselau. Ar hyn o bryd, mae 534 o ddisgyblion ar y gofrestr.


Mae’r disgyblion o sbectrwm eang cymdeithasol a diwylliannol, sy’n rhoi awyrgylch bywiog i’r ysgol. Mae’r ardal yn gymysgedd o ieithoedd cymhleth – y Fro Gymreig ym mynyddoedd y Preseli, Trefdraeth, Y Strwmbl ac yn enwedig Cwm Gwaun, ac mae’r ardal wedi cadw llawer o’i hiaith a’i diwylliant Cymreig. O ganlyniad, defnyddir Cymraeg a Saesneg yn helaeth ledled yr ysgol. Ers canrifoedd mae Bae Abergwaun wedi bod yn bwynt mynediad i Brydain o Iwerddon; mae llawer o deuluoedd Gwyddelig wedi ymgartrefi yn yr ardal leol, sy’n rhoi cymysgedd unigryw o ddiwylliannau yn yr ardal.


Mae ein hysgol £14 miliwn newydd yn cynnig cyfuniad perffaith rhwng dysgu traddodiadol ac arloesol, sydd wir yn creu amgylchedd dysgu yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae ein cyfleusterau yn eithriadol, gan gynnwys cyfleusterau hamdden a rennir gydag ein cymydog, Canolfan Hamdden Abergwaun.