This is some Welsh inside the Pod text field
Mae Ysgol Bro Gwaun yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion archwilio Cerdd a Drama trwy eu gwersi Celfyddydau Mynegiannol yng CA3, ac yna yr opsiwn I ddewid Cerdd a Drama fel dau bwnc ar wahan ar gyfer ipsiynnau TGAU.
Fel adran, ein bwriad yw rhoi cymorth i ddisgyblion datblygu mwynhad a gwerthfawrogiad o bob math o genre Cerdd a Theatre ac i adeiladu hyder trwy perfformio. Rydym yn credu fod y sgil o berfformio yn bwysig nid yn unig i’r rhai sydd am action ar lwyfan, ond I unrhyw ddisgybl bydd yn rhoi cyflwyniad neu mynychu cyfweliad, sgil sydd angen ar bawb.
Yn CA3, dysgir Cerdd a Drama o dan yr enw ‘Celfyddydau Mynegiannol’. Mae’r gwersi yn newid bob yn ail hanner tymor gyda disgyblion yn cael profiad o bloc hanner tymor ym mhob pwnc. Mae’r gwersi Drama yn diwgydd yn y Siwdio Ddrama a’r gwersi Cerdd yn digwydd yn y dosbarth Cerdd penodedig. Bydd y disgyblion sydd yn y dosbarth cofrestri ‘Y’ yn cael gwersi Celfyddydau Mynegiannol trwy gyfrwng y Gymraeg a disgyblion dosbarth cofrestri ‘S’ yn cael y gwersi yn ddwyiaethog.
Ym mlwyddyn 7 bydd y disgyblion yn astudio’r pynciau canlynol:
|
Tymor y Gaeaf |
Tymor y Gwanwyn |
Tymor yr Haf |
Cerdd |
Y Gerddorfa ac elfennau Cerddoriaeth |
Rhythm a nodiant – sgiliau allweddellau |
Charlie ar Ffatri Siocled a sgiliau cyfansoddi |
Drama |
Cyflwyniad i Ddrama trwy meim |
Tylwyth Teg – dyfeisio gwatih gwreiddiol |
Charlie ar Ffatri Siocled – gweithio o sgript |
Trwy’r pynciau yma bydd y disgyblion yn dysgu’r sgiliau canlynol:
Darllen Cerddoriaeth
Dysgu chwarae llu o offerynnau gwahanol
Sgiliau cyfansoddi
Sgiliau perfformio
Gweithio fel rhan o ensemble
Sgiliau cyfathrebu
Datblygu cymeriadau
Dealldwriaeth o emosiwn a mynegiant corfforol
Empathi
Datblygu hyder
Bydd nifer o gyfleoedd i’r disgyblion yn cynnwys:
- Cymrud rhan mewn corau a cherddorfa
- Perfformio yng nghyngerdd Carolau yr Ysgol a’r Gymuned
- Perfformio yng nghynhyrchiad Nadolig yr ysgol
- Parhau gyda gwersi offerynnol trwy Gwasanaeth cerdd y Sir
Edrychwn ymlaen i’ch croesawi i’r adran Celfyddydau Mynegiannol!