Skip to the content

Radio Bwrlwm Bro Gwaun

Ar ddydd Mercher y 26ain o Fedi, cynhaliwyd gweithdy radio gyda Dosbarth Blwyddyn 8 Bwrlwm yng Nghanolfan Iaith Bro Gwaun, Ysgol Bro Gwaun. Daeth Marc Griffiths, sy’n adnabyddus ym myd y cyfryngau a’r radio i gynnal y gweithdy. Mae Marc yn gyfrifol am sefydlu Cymru.FM, sianel radio sy’n rhedeg ar lein ac mae’r rhaglenni yn cael eu darlledu yn fyd-eang. Mae ganddo hefyd ei raglen ei hun ar radio Cymru bob nos Sadwrn.

Yn ystod y diwrnod, cafodd y disgyblion gyfleoedd i sgriptio, recordio a chynhyrchu eu rhaglen gyntaf ar y thema Enwogion. Roedd hwn yn gyfle gwych iddyn nhw ddysgu sut i fynd ati i gynllunio a rhedeg eu gorsaf radio eu hunain. Dyma oedd lawnshiad Radio Bwrlwm Bro Gwaun a darlledwyd y rhaglen gyntaf yn fyw ar nos Fercher 26ain o Fedi. Medrwch glywed y rhaglen eto ar Cymru.Fm neu ar wefan Canolfan Iaith Bro Gwaun https://www.canolfaniaithbrogwaun.com/radio-bwrlwm-bro-gwaun.html

Mae gan Ysgol Bro Gwaun adeilad newydd a bwriad y plant yw i ysgogi Cymreictod yn yr Unfed Ganrif ar Hugain sydd ohoni trwy greu gorsaf radio a darlledu o fewn yr adeilad newydd, y gymuned a chymuned Gymraeg a Chymreig sy’n fyd eang.

On Wednesday 26th of September, a radio workshop with Bwrlwm Year 8 Class was held at Canolfan Iaith Bro Gwaun, Ysgol Bro Gwaun. Marc Griffiths, well-known in the media and radio, came to host the workshop.

Marc is responsible for establishing Cymru.FM, a radio channel that runs online and the programs are broadcast globally. He also has his own radio program on Radio Cymru  every Saturday evening. During the day, pupils had the opportunity to script, record and produce their first program on the theme “Famous Welsh People”. This was a fantastic opportunity for them to learn how to plan and run their own radio station.

This was the launch of Radio Bwrlwm Bro Gwaun and the first program was broadcast live on Wednesday 26th of September. You can hear the program again on Cymru.FM and on the Canolfan Iaith Bro Gwaun website https://www.canolfaniaithbrogwaun.com/radio-bwrlwm-bro-gwaun.html

Ysgol Bro Gwaun has a new building set for the Twenty First Century and the children's long term vision  is to stimulate and promote Welsh and Welshness. Through creating and establishing  a radio station, which will be broadcasted in the new building, the community and heard on a world-wide ptatform, the year 8 pupils’ vision is set in stone and they are now ready to embark on an exciting adventure.

Need to Talk?

Get in touch with us...