Skip to the content

       

 

Mae Ysgol Bro Gwaun yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion archwilio Cerdd a Drama trwy eu gwersi Celfyddydau Mynegiannol yng CA3, ac yna yr opsiwn I ddewid Cerdd a Drama fel dau bwnc ar wahan ar gyfer ipsiynnau TGAU.  

Fel adran, ein bwriad yw rhoi cymorth i ddisgyblion datblygu mwynhad a gwerthfawrogiad o bob math o genre Cerdd a Theatre ac i adeiladu hyder trwy perfformio. Rydym yn credu fod y sgil o berfformio yn bwysig nid yn unig i’r rhai sydd am action ar lwyfan, ond I unrhyw ddisgybl bydd yn rhoi cyflwyniad neu mynychu cyfweliad, sgil sydd angen ar bawb. 

Yn CA3, dysgir Cerdd a Drama o dan yr enw ‘Celfyddydau Mynegiannol’.  Mae’r gwersi yn newid bob yn ail hanner tymor gyda disgyblion yn cael profiad o bloc hanner tymor ym mhob pwnc. Mae’r gwersi Drama yn diwgydd yn y Siwdio Ddrama a’r gwersi Cerdd yn digwydd yn y dosbarth Cerdd penodedig. Bydd y disgyblion sydd yn y dosbarth cofrestri ‘Y’  yn cael gwersi Celfyddydau Mynegiannol trwy gyfrwng y Gymraeg a disgyblion dosbarth cofrestri ‘S’ yn cael y gwersi yn ddwyiaethog.

Ym mlwyddyn 7 bydd y disgyblion yn astudio’r pynciau canlynol:

 

Tymor y Gaeaf

Tymor y Gwanwyn

Tymor yr Haf

Cerdd

Y Gerddorfa ac elfennau Cerddoriaeth

Rhythm a nodiant – sgiliau allweddellau

Charlie ar Ffatri Siocled a sgiliau cyfansoddi

Drama

Cyflwyniad i Ddrama trwy meim

Tylwyth Teg – dyfeisio gwatih gwreiddiol

Charlie ar Ffatri Siocled – gweithio o sgript

 

Trwy’r pynciau yma bydd y disgyblion yn dysgu’r sgiliau canlynol:

      Darllen Cerddoriaeth

      Dysgu chwarae llu o offerynnau gwahanol

      Sgiliau cyfansoddi

      Sgiliau perfformio

      Gweithio fel rhan o ensemble

      Sgiliau cyfathrebu

     Datblygu cymeriadau

     Dealldwriaeth o emosiwn a mynegiant corfforol

     Empathi

     Datblygu hyder

Bydd nifer o gyfleoedd i’r disgyblion yn cynnwys:

  • Cymrud rhan mewn corau a cherddorfa
  • Perfformio yng nghyngerdd Carolau yr Ysgol a’r Gymuned
  • Perfformio yng nghynhyrchiad Nadolig yr ysgol
  • Parhau gyda gwersi offerynnol trwy Gwasanaeth cerdd y Sir

Edrychwn ymlaen i’ch croesawi i’r adran Celfyddydau Mynegiannol!

Welsh Default Outro Strip Heading

Welsh Deault Outro Strip text